P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan UNISON, ar ôl casglu cyfanswm o 1,858 lofnodion ar-lein a 11,407 ar bapur, sef cyfanswm o 13,265 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru, sef y prif gorff sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd yng Nghymru, i atal cynnig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau Ward Sam Davies, ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau yn Ysbyty y Barri, ac i sicrhau bod Ysbyty y Barri yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd i'r cyhoedd yn y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae Ward Sam Davies yn ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys adsefydlu strôc, adsefydlu orthopedig, ac adsefydlu meddygol ymhlith gwasanaethau iechyd allweddol eraill. Mae gan y ward ddau wely seibiant hefyd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Canol Caerdydd
· Canol De Cymru